by Halyna Soltys | 19th Chw 2024
Ydych chi’n werthuswr profiadol sy’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pobl ifanc? Rydym yn chwilio am werthuswr medrus i weithio mewn partneriaeth â ni i werthuso ein prosiect pum mlynedd uchelgeisiol, sef Meddwl Ymlaen Gwent (MYG).
Mae MYG, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn cael ei arwain gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd, yn dechrau ei ail flwyddyn yn 2024 gyda gweledigaeth i ddylunio atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Ngwent.

Gwybodaeth am Meddwl Ymlaen Gwent (MYG):
Mae MYG yn ymdrechu i atal a lliniaru heriau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Ngwent.
Wedi’i gyd-ddylunio gyda phobl ifanc ac yn cael ei arwain gan Mind Casnewydd a ProMo Cymru, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ganfod bylchau mewn gwasanaethau, adeiladu ar fentrau llwyddiannus, a datblygu dulliau newydd o gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
Amcanion Gwerthuso:
Rydym yn gwahodd gwerthuswyr profiadol i wneud y canlynol:
– Arwain ein tîm staff wrth ddewis y dulliau gwerthuso gorau.
– Helpu i ddatblygu dogfennau gwerthuso mewnol i sicrhau bod data cynhwysfawr yn cael ei gasglu.
– Diffinio canlyniadau mesuradwy i ddangos tystiolaeth o lwyddiant y prosiect.
– Cefnogi’r gwaith o grynhoi astudiaethau achos ac adroddiadau monitro.
– Gwerthuso’r prosiect yn gyfannol a llunio adroddiad terfynol erbyn Hydref 2027.
Cyflwyno Eich Cynnig:
Rydym wedi dyrannu cyllideb o £5,000 y flwyddyn ar gyfer blynyddoedd 2, 3, 4 a 5.
Mae ceisiadau ar gyfer y swydd hon yn cau ar 18fed Mawrth 2024.
I gael manylion llawn am y cyfle hwn, darllenwch y briff llawn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Cindy Chen, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ar cindy@promo.cymru.