Deprecated: Function create_function() is deprecated in /var/www/vhosts/promoment.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/promo_cymru/functions.php on line 346
Buddsoddiad Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol - ProMo Cymru

Roeddem yn ffodus iawn i dderbyn buddsoddiad gan y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn 2018. Bwriad y gronfa yw cefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn ariannol, fel eu bod yn gallu tyfu a chreu cyfleoedd swyddi. Mae’r gronfa yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, CGGC.

Mae ProMo-Cymru wedi defnyddio’r buddsoddiad i gyflogi cynorthwyydd cynllunio a chyfathrebu llawn amser gyda’r bwriad o dyfu a datblygu’r ffwythiant cyfathrebu a cynllunio o fewn y sefydliad. Caniataodd hyn i ni fedru ehangu ein cynnig, i dderbyn cleientiaid newydd ac i ddatblygu ein harbenigedd.

Dros gyfnod o 12 mis, rydym wedi llwyddo cynyddu dros 10% o eneradiad incwm yn yr ardal yma.

Gallwch ddarllen manylion pellach am y prosiect yma.