by Tania Russell-Owen | 5th Hyd 2018
Ar ddydd Gwener, 28 Medi, cynhaliwyd agoriad swyddogol ein swyddfeydd newydd ym Mae Caerdydd, yn rhoi cyfle i ni arddangos ein gwaith yma yn ProMo-Cymru.
Agorwyd yr eiddo newydd yn swyddogol gan yr Aelod Cynulliad Vaughan Gething gyda gwesteion o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn cael teithiau o amgylch yr adeilad, gweithdai gyda’n timau llinell gymorth a chreadigol, ac arddangos y ffordd rydym yn creu rhai o’n gwaith fideo. Darparwyd cinio bwffe blasus gyda chyfle i’n gwestai rwydweithio, a chawsom wledd wrth wrando ar berfformiad byw o’r darn Pili-pala llwyddiannus gan yr artist gair llafar Sarah McCreadie. Cafwyd perfformiad gair llafar byrfyfyr hefyd gan Sabrina Islam o’r Ministry of Life.
“Heb os nac oni bai, uchafbwynt y digwyddiad oedd y perfformiadau gan y bobl ifanc Sarah a Sabrina. Roedd y ddau ddarn yn cyfleu rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc. Trosglwyddwyd y rhain gydag angerdd, emosiwn a thalent.” eglurai Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu ProMo-Cymru.
Dathlu ac edrych tuag at y dyfodol
Cychwynnodd y diwrnod gydag araith agoriadol gan Arielle Tye. Ymestynnodd croeso i bawb a rhoi hanes byr o ProMo-Cymru a’n gwaith, yn ogystal â chyflwyno ein model TYC. Bu’r gwesteion yn cymryd rhan mewn gweithdai wedyn. Un yn arddangos ein gwasanaethau llinell cymorth a sut gallan helpu pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Roedd y llall yn cyflwyno gwaith ein tîm creadigol.
- Araith agoriadol Arielle Tye
- Cyflwyno Sarah McCreadie
- Sabrina, Arielle a Joff
“Roedd y diwrnod agored yn gyfle i ddathlu ac edrych tuag at y dyfodol gyda’n partneriaid a ffrindiau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Roedd yna egni positif wrth i ni drafod â’n gilydd sut gall technoleg ddigidol ein helpu i drosglwyddo gwasanaethau i bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yn fwy effeithiol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i symud y syniadau yma ymlaen,” meddai Arielle yn frwdfrydig.
Gwerthoedd ac ansawdd
Eglurodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr, ychydig fwy am adferiad yr adeilad a’r bobl oedd yn gyfrifol am hynny. Yna cyflwynodd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Vaughan ydy Aelod Cynulliad De Caerdydd a Phenarth ac felly roedd yn falch o gael agor yr adeilad yma yn ei etholaeth.
“Rwyf wedi gweld ProMo-Cymru yn newid dros gyfnod. Yr hyn sydd yn nodedig ac yn bwysig i mi ydy gweld y gwerthoedd sydd yn llifo drwy’r sefydliad, ac i weld hynny’n bod yn llwyddiannus,” meddai Vaughan Gething.
“Mae ProMo-Cymru wedi bod yn llwyddiannus am fod ganddo werthoedd ac mae’n trosglwyddo gwasanaethau o ansawdd. Maent wedi helpu cynnal a chefnogi pobl. Mae’n bleser cael bod yma. Rwyf yn gefnogwr ac yn bencampwr o’r sefydliad yma yn union fel y maen nhw’n gefnogwyr ac yn bencampwyr y bobl maent yn gweithio â nhw, ac yn gweithio ar eu rhan,” ychwanegodd.
Teimlo’n bositif
Roedd yna lawer o adborth positif gan ein gwestai wrth iddynt adael, a llawer yn trydar pethau cadarnhaol hefyd:
“Sut i gynnal diwrnod agored 101. Profiad gwych gyda’n cleient @ProMo-Cymru heddiw. Wedi creu argraff gyda ymdrech gan bob un i drosglwyddo rhywbeth uwchlaw a thu hwnt i’r norm” – Steve Dimmick, Prif Swyddog Masnachol Doopoll.
“Wedi mwynhau cyfarfod staff @ProMo-Cymru a’u gwesteion heddiw yn eu digwyddiad lansio. Ias wrth wrando ar Pili-pala gan @Girl_Like_Sarah” – DTA Cymru.
“Da iawn bawb. Mae yna si mawr am ProMo-Cymru a llawn haeddiant hefyd.” – Matthew Gwyn Lloyd, Cymunedau Digidol Cymru.
“Digwyddiad #rhwydweithio grêt yn niwrnod agored @ProMoCymru. Gair llafar anhygoel gan #boblifanc. Mor dalentog.” – Gillian Wilde, Holos Education Ltd.
Diolch arbennig i Joff o Ministry Of Life fu’n darparu’r system sain a’r gefnogaeth dechnegol, yn ogystal â chyflwyno perfformiwr ifanc i bawb.
Edrychwch ar holl luniau’r diwrnod agored yma.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith yma yn ProMo-Cymru cysylltwch â Arielle Tye ar 029 2046 2222 neu e-bostio arielle@promo.cymru.
Gwybodaeth bellach am ein Model TYC yma: