acf
domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init
action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /var/www/vhosts/promoment.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6121EVI yw’r institiwt hynaf yng Nghymru. Mae’n adeilad rhestredig gradd 2 a’n galon hanesyddol i Lynebwy sy’n gweithredu fel canolfan cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r adeilad yn gartref i sawl mudiad statudol a mudiadau o fewn y trydydd sector, gan gynnwys Llamau, Cyfrannol Women’s Aid (Cymorth i Ferched Cyfrannol?), a Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Blaenau Gwent.
Bydd Cronfa Gymunedol y DU yn helpu ProMo i wireddu prosiect uchelgeisiol i gefnogi adfywiad Glynebwy ac ardal Blaenau Gwent.
Mae’r gronfa yn caniatáu i EVI weithio gyda’r gymuned i gyd-ddylunio a phrofi ffyrdd i adeiladu gwell ddyfodol. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol mewn llunio llefydd a dylunio gwasanaethau. Y nod fydd gwneud Blaenau Gwent yn le mwy atyniadol i fyw, gweithio ac ymweld.
Byddwn yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol:
Byddwn ni’n cyd-ddylunio Caffi Datblygu Mentrau Cymdeithasol – gan weithio gyda grwpiaua gwirfoddolwyr o’r gymdeithas i brofi’r posibilrwydd o wireddu caffi cymunedol gan ddefnyddio’r gegin broffesiynol yn EVI. Yma gall bobl ddysgu am sut i baratoi bwyd, gwasanaeth cwsmer, a marchnata busnes, i greu cyfleoedd hyfforddiant a llwybrau at gyflogaeth.
Byddwn yn hybu sgiliau byw’n iach a chymdeithasu drwy ddigwyddiadau yn EVI, megis boreuau coffi a chlybiau brecwast.
Bydd ProMo yn defnyddio ein arbenigaeth digidol i helpu busnesau a mudiadau lleol i ymdopi gyda ffyrdd newydd o weithio. Byddwn yn gwireddu hyfforddiant ddigidol a’n darparu cymorth ar gyfer y sgiliau sy’n anghenrheidiol i arddangos eu gwaith a hyrwyddo’r hyn maent yn gwneud.
Mae EVI yn le cynhyrfus i gynnal rhaglenni diwylliannol, digwyddiadau a gweithgareddau.
Mae gan ProMo barch mawr tuag at greadigrwydd a’r economi greadigol. Byddwn yn gweithio gydag artistiaid lleol i helpu grwpiau cymunedol i archwilio pynciau megis ardal, hunaniaeth, etifeddiaeth economaidd ac adfywio ar gyfer y dyfodol. Bydd y canlyniadau yn cael eu harddangos yn EVI fel rhan o arddangosfeydd a gweithgareddau diwydiannol wedi eu dylunio i atynnu mwy o ymwelwyr i Lynebwy.
Byddwn yn gwireddu rhaglen o arloesi amgylcheddol yn EVI. Bydd hyn yn cadw gydag ethos gwreiddiol EVI fel Institiwt Llenyddol a Gwyddonol a adeiladwyd gan y gymuned yn 1849. Bydd ProMo yn treialu cynllun bwyd cynaliadwy i leihau gwastraff bwyd yn y Cymoedd ac i dreialu sut y gall EVI fod yn gatalyst ar gyfer newidiadau positif yn agweddau amgylcheddol bobl o fewn a thu allan i’r adeilad.
Bydd ProMo yn cynnal gweithgareddau amgylcheddol yn yr ardd yn EVI, sydd newydd ei ail-ddatblygu. Yma gall aelodau o’r gymuned ddysgu pa gamau gallent gymryd i amddiffyn yr amgylchedd.
Mae gan EVI sawl peth yn gyffredin ag adeiladau cymunedol hanesyddol eraill ar draws Cymru. Bydd ProMo, gan gadw at ein hegwyddorion cydweithredol, yn dylunio a’n dogfennu sut y gall adeiladau cymunedol eraill wireddu technolegau a dulliau gwyrdd.
Bydd ProMo yn parhau i werthuso pob agwedd drwy gydol y prosiect drwy lens o gyfrifoldeb amgylcheddol.
Mae EVI wedi bod yn ganol i fywyd cymunedol Glynebwy ers 173 o flynyddoedd. Mae ProMo, fel ceidwad yr adeilad, yn sicrhau y bydd y brethyn cymdeithasol a’r elfennau materol yn rhywbeth y gall genhedloedd y dyfodol adeiladu arnynt.
Os hoffech chi drafod y prosiect yma neu i weithio gyda ni, cysylltwch â cindy@promo.cymru